
Prif Arddwyr Tyfu Dyfi
Ynghylch 🔗
Mae Tyfu Dyfi yn rhaglen Prif Arddwyr nghanolbarth Cymru, ein prosiect rhwydwaith mentoriaid gwirfoddol diweddaraf yn y wlad.
Rydym yn rhan o gonsortiwm o bartneriaid o’r un anian a arweinir gan y sefydliad lleol EcoDyfi sy’n cyflawni prosiect Tyfu Dyfi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae ein rôl yn cynnwys rhannu sgiliau, gwybodaeth a hyfforddiant ynghylch tyfu organig ymhlith trigolion a chymunedau Biosffer Dyfi, ardal ddynodedig UNESCO o amgylch Machynlleth ac Aberystwyth. Mae'r prosiect yn rhedeg o 2021 i 2023.
Mae Tyfu Dyfi yn cynyddu nifer y safleoedd tyfu yn yr ardal er mwyn cysylltu’r cyhoedd â byd natur, er mwyn bwyd a llesiant. Mae’n sefydlu safleoedd tyfu, yn cynnwys y gymuned leol, ac yn cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi byr.
Nodau 🔗
Nod y prosiectau yw cyflawni:
- hwb i'r economi bwyd lleol
- mwy o gyfranogiad gan gymunedau lleol mewn tyfu - mwy o bobl, demograffeg ehangach
- cyfraniad i'r agenda cynaladwyedd
- sylfaen i adeiladu arni pan ddaw'r prosiect i ben.
Nodau’r gwirfoddolwyr yw:
- Codi ymwybyddiaeth o fanteision tyfu eich bwyd eich hun
- Annog mwy o bobl i dyfu gartref neu ar dir cymunedol
- Cefnogi a chynghori pobl i dyfu gartref neu ar dir cymunedol gan roi pob cyfle iddynt lwyddo yn eu gweithgareddau
Gwirfoddolwyr 🔗
Mae Prif Arddwyr yn wirfoddolwyr sydd ag o leiaf dwy flynedd o brofiad tyfu bwyd ac angerdd dros annog eraill i roi cynnig arni. Mae technegau tyfu organig yn rhan o'ch hyfforddiant felly nid oes angen i chi fod yn arbenigwr.
Mae yna Brif Arddwyr o amrywiaeth eang o oedran, cefndir a diwylliant. Mae hyn yn cyfrannu at effeithiolrwydd y cynllun – gall Prif Arddwyr gyrraedd rhannau o gymuned na all gweithgareddau eraill eu cyrraedd.
Mae gweithgareddau Prif Arddwyr yn cynnwys siarad â ffrindiau, teulu a chymdogion a chynnig cyngor a chefnogaeth barhaus, mynychu ffeiriau pentref neu roi sgyrsiau i grwpiau lleol.
Mae'r rhan fwyaf o Brif Arddwyr yn treulio tua 30 awr y flwyddyn yn eu gweithgareddau gwirfoddol. Mae'r 30 awr hyn yn cynnwys yr holl amser teithio a pharatoi. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur hwn yn orfodol.

Buddion 🔗
Y cam cyntaf i ddod yn Brif Arddwr yw mynychu cwrs hyfforddi. Pwrpas yr hyfforddiant hwn yw sicrhau bod gan bob gwirfoddolwr yr un lefel sylfaenol o wybodaeth. Bydd eich lle ar y cynllun Meistr Garddwr yn cael ei ariannu’n llawn ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am y cwrs hyfforddi nac unrhyw adnoddau. Gallwch hawlio treuliau a dalwyd wrth wirfoddoli yn ardal y prosiect. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich rôl gan Gydlynydd Gwirfoddolwyr.
Person 🔗
Bydd y rôl hon yn addas ar gyfer pobl sydd:
- â diddordeb mewn tyfu bwyd
- yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando da
- yn mwynhau siarad am dyfu bwyd a'i hyrwyddo
- yn hapus i gymryd rhan yn unigolyn ac fel rhan o dîm
- Yn gallu rhannu gwybodaeth a/neu gyflwyno gwybodaeth i eraill
- ag agwedd gadarnhaol, drefnus a hyblyg at wirfoddoliyn awyddus i ehangu eu gwybodaeth mewn garddwriaeth
- yn gallu mynychu digwyddiadau hyfforddi Master Gardener
Cyswlllt 🔗
Am fwy o wybodaeth am Tyfu Dyfi, cysylltwch â Jane Powell, Jade Phillips neu Naomi Heath ar e-bost y brosiect neu ffoniwch i Jane ar0 07929 857173.
Am wybodaeth bellach am waith Garddio Organig cysylltwch ag aelod y tim garddwriaeth trwy e-bost, neu ffôniwch 024 7630 3517.

Dewch yn Brif Arddwyr yng Nghanolbarth Cymru
Mynychwch un o'n cyrsiau hyfforddi a dod yn ddylanwadwr yn eich cymuned leol, gan rannu sgiliau, gwybodaeth a hyfforddiant ynghylch tyfu organig. Darganfyddwch fwy am y rôl a chofrestrwch i wirfoddoli gyda ni.
Gofynnwch am help Prif Arddwr
Mynnwch gyngor, trefnwch sgwrs garddio neu gwahoddwch ein Prif Arddwyr i'ch digwyddiad lleol.